UK – National Union of Journalists (2013)

The NUJ Code of Conduct was first developed in 1936 and you can get the latest version of the Code of Conduct here.

The revised NUJ code includes a new ‘conscience clause’, which declares that journalists are entitled to refuse to produce work in breach of the code and will be given the support of the union if they do so.

The union has always stood for high journalistic standards based on the Code and the union has always backed members willing to take a stand for ethical journalism.

The NUJ Code is also available in Welsh:

CÔD YMDDYGIAD YR NUJ
Disgwylir i aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr gydymffurfio â’r egwyddorion proffesiynol a ganlyn

MAE NEWYDDIADURWR(AIG):
1. Yn ategu ac yn amddiffyn bob amser yr egwyddor o ryddid y cyfryngau, yr hawl i fynegi barn yn rhydd a hawl y cyhoedd i gael ei hysbysu.

2. Yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth a ddosberthir yn cael ei chyfleu’n onest, yn fanwl gywir ac yn deg.

3. Yn ymdrechu hyd yr eithaf i gywiro gwallusrwydd niweidiol.

4. Yn gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn.

5. Yn cael deunydd trwy ddulliau gonest, didwyll ac agored, ac eithrio mewn ymchwiliadau sydd ar yr un pryd yn amddiffyn budd diamau’r cyhoedd ac yn cynnwys tystiolaeth na ellir ei chael trwy ddulliau didwyll.

6. Yn ymatal rhag unrhyw weithred sy’n ymwthio i fywyd preifat, galar neu loes unrhywun, oni chyfiawnheir hyn gan ystyriaethau diwrthdro budd y cyhoedd.

7. Yn amddiffyn anhysbysedd ffynonellau sy’n cyflenwi gwybodaeth yn gyfrinachol a deunydd a gesglir fel rhan o’i (g)waith.

8. Yn gwrthsefyll bygythiadau neu unrhyw gymelliadau eraill i ddylanwadu ar wybodaeth, ei chamliwio neu’i chelu, ac yn ymatal rhag cymryd anfantais bersonol annheg ar wybodaeth a gesglir fel rhan o’i (g)waith cyn i’r wybodaeth ddod yn hysbys i’r cyhoedd.

9. Yn ymatal rhag cynhyrchu deunydd sy’n debygol o arwain at gasineb neu anffafriaeth ar sail oedran, rhyw, hil, lliw, ffydd, statws cyfreithiol, anabledd, statws priodasol na chyfeiriadedd rhywiol rhywun.

10. Yn ymatal rhag cymeradwyo na hysbysebu unrhyw gynnyrch neu wasanaeth masnachol trwy gyfrwng datganiad, llais nag ymddangosiad ac eithrio â’r nod o hyrwyddo ei (g)waith ei hun neu hyrwyddo’r cyfrwng sy’n ei g/chyflogi.

11. Fel rheol bydd newyddiadurwr(aig) yn ceisio caniatâd oedolyn priodol wrth gyfweld â phlentyn neu dynnu llun ohono ar gyfer adroddiad am ei (l)les.

12. Mae’n ymatal rhag llên-ladrata.

Mae’r NUJ yn credu bod gan newyddiadurwr(aig) yr hawl i wrthod derbyn gorchwyl neu gael ei (h)enwi fel awdur erthygl olygyddol a fyddai’n groes i lythyren neu ysbryd y côd. Bydd yr NUJ yn rhoi cefnogaeth lawn i unrhyw newyddiadurwr(aig) sy’n cael ei (d)disgyblu am arddel ei hawl i weithredu yn unol â’r côd.